Beth sy'n digwydd yma?
Mae’n ymddangos bod y cylchoedd llwyd yn fflachio ar adegau gwahanol, un ar ôl y llall – ond mewn
gwirionedd, maen nhw’n fflachio ar yr un pryd!
Rydyn ni’n meddwl bod hyn yn digwydd am fod y cylchoedd sy’n fflachio yn cyd-fynd â lliw eu cefndir ar
adegau gwahanol.
Pan fyddant yn cyd-fynd â’u cefndir mae’n ymddangos eu bod yn diflannu ac yna pan fyddant yn newid
lliw ac yn peidio â chyd-fynd â’u cefndir mae’n edrych fel pe baent yn ailymddangos.