Beth sy'n digwydd yma?
Wrth i chi edrych ar y darlun am amser hir, mae rhan o'ch llygaid yn blino ar weld yr un lliwiau, ac felly bydd yn stopio gweithio cystal.
Pan fyddwch yn edrych i ffwrdd, mae rhannau eraill o'ch llygaid yn anfon mwy o negeseuon i'ch ymennydd na'r rhannau sydd wedi blino, felly nid yw'r wybodaeth mae eich ymennydd yn ei gael am y lliwiau yn gytbwys.
Bydd y rhan fwyaf o bobl felly'n gweld delwedd lliw ar yr arwyneb gwyn nad yw yno mewn gwirionedd.
Llun: Amy Winehouse, Afterimage, braslun digidol gan Dimitri Parant wedi’i drwyddedu dan CC BY-SA 2.0