Beth sy'n digwydd yma?
Mae gwyddonwyr yn dal i geisio deall pam fod pobl yn gweld lliwiau gwahanol yn yr un llun.
Un theori yw, os ydy'ch ymennydd yn meddwl fod y llun wedi ei dynnu y tu mewn, mewn golau mwy melyn, bydd y ffrog yn edrych yn las a du. Os ydy'ch ymennydd yn meddwl ei fod wedi ei dynnu y tu allan, lle mae'r golau'n fwy glas, byddwch yn gweld gwyn ac aur.
Mae'n ymddangos bod ein hymennydd yn gwneud defnydd o'r golau o'n cwmpas a'r golau sy'n dod o'r gwrthrych ei hun.
Hyd yn oed os ydym yn edrych ar union yr un peth, byddwn weithiau yn gweld pethau'n wahanol i bobl eraill.